Pecyn e-Ddysgu ACEs
Rydym yn falch o gyhoeddi y gellir cyrchu’r pecyn e-Ddysgu Cyflwyniad i Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) yn Dysgu@Cymru.
Mae’r cwrs e-ddysgu yn addas ar gyfer holl staff gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru.
Mae’r cwrs yn cwmpasu:
- Beth yw Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs)
- Cyffredinrwydd ACEs yng Nghymru
- Y risgiau sy’n gysylltiedig ag ACEs a’u heffaith trwy gydol bywyd
- Beth i’w wneud i atal ac ymateb i ACEs.
Gellir cyrchu’r e-ddysgu naill ai fel cyflwyniad byr i ACEs neu fel rhagarweiniad ar gyfer hyfforddiant dilynol. Disgrifir enghreifftiau o becynnau hyfforddi sector-benodol ym Mhrosbectws Hyfforddiant Hwb ACE; mae’r pecynnau hyn yn adeiladu ar hanfodion ACEs ac yn archwilio beth mae gwybodus am drawma yn ei olygu i’r sector yn ymarferol.
Dilynwch y camau isod i gael mynediad at y cwrs:
- Ewch i wefan Dysgu@Cymru trwy’r ddolen hon https://learning.wales.nhs.uk/login/index.php
- Mewngofnodwch neu gliciwch “mewngofnodi fel gwestai”
- Ar ôl mewngofnodi – teipiwch ACE yn y blwch chwilio a gwasgwch enter
- Cliciwch deitl y cwrs Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
- Nodwch allwedd y cyfrinair – ACE
- I ddechrau’r hyfforddiant, cliciwch yr eicon ACEs gwyrdd
Sylwch – Os yw sefydliadau am gael dysgwyr yn eu sefydliad i hunan-gofrestru er mwyn cipio pwy sy’n cwblhau’r cwrs, gallwn weithio gyda chi i ddarparu’r lefel berthnasol o fynediad.
Os ydych am gael y lefel hon o fynediad, cysylltwch â ni drwy ACE@wales.nhs.uk